Creoso i wefan A Jones Firewood Suppliers
Yma yn A Jones Firewood rydym yn canolbwyntio ar gynhyrchu'r coed tân o'r safon gorau i'ch cadw'n gynnes dros y gaeaf. Rydym yn cludo coed tân mewn sachau neu llwythi mwy, ac mae ein coed i gyd wedi eu torri i faint hwylus. Yn ogystal â choed tân rydym yn gwerthu priciau tân hefyd.
Mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw adeg am brisiau ac yn y blaen. Rydym o hyd yn barod i fod o gymorth.
Cyfrinach tân iawn yw coed sych o safon. Dyna pam ein bod yn gadael i'n coed sychu'n naturiol, mewn sied, am o leiaf 18 mis cyn eu gwerthu i neb. Mae coed sych yn taflu llawer mwy o wres na choed gwlyb gan fod coed gwlyb yn defnyddio'r gwres i gyd i sychu'r coedyn yn lle cynhesu'r ystafell.
Mae ein coed tân i gyd yn dod mewn darnau o tua wyth i ddeng modfedd o hyd (gall rhai fod yn llai). Os ydych eisiau coed wedi eu torri i faint arbennig, cysylltwch â ni a fe wnawn ein gorau.
